CYFATHREBU

Mewn oes o gyfathrebu electronig a chyfryngau cymdeithasol di-ddiwedd, mae mynegi eich neges yn glir ac effeithiol yn bwysig dros ben. Mae'r cynnig hwn yn seiliedig ar fy mhrofiad o’r byd darlledu ac arwain dros nifer o flynyddoedd, lle roedd pobl yn meddwl eu bod nhw'n cyfathrebu yn y ffordd iawn - weithiau, fe roedden nhw, ond yn amlach na pheidio, doedden nhw ddim. Efallai bod gyda ni fwriadau da, ond efallai nad ydym yn ymwybodol o ofynion y gynulleidfa, y sefyllfa na’r amseru sydd eu hangen.

Gellir teilwra'r rhaglen hon ar gyfer unigolion neu grwpiau bach.

Y nod yw dod o hyd i’r stori fwyaf priodol ar eich cyfer chi a’ch sefydliad – a’i hadrodd yn y ffordd fwyaf effeithiol posib. Byddwn yn ystyried y gynulleidfa, y cynnwys, yr arddull a’r cywair fydd yn sicrhau eich bod yn gweithio fel chi’ch hun bob tro. O’i wneud yn iawn, gallwch sicrhau eglurder, ymgysylltiad a chanlyniadau.

Y FFORDD O WEITHIO:

- ar gyfer unigolion, bydd hyn yn dibynnu ar natur y cyfathrebu e.e. cyfarfod staff, cynllun cyfathrebu ar gyfer rhaglen newid, araith cynhadledd, cyfweliadau - a gellir eu teilwra fel sesiynau undydd neu sesiynau unigol dros gyfnod o amser
- sesiynau grŵp lle mae stori fwy i’w hadrodd e.e. rheoli newid lle mae gan bawb ran o’r stori i’w hadrodd, neu sesiynau adrodd stori ar gyfer gwleidyddion neu ddarpar wleidyddion.

Ar ôl gweithio gyda’n gilydd, byddwch yn gwybod:

  • pam eich bod yn dweud y stori
  • pa stori fydd orau i chi
  • ar gyfer pwy mae'r stori
  • sut i wneud gwahaniaeth gyda'ch stori
  • beth yw'r lle a'r amser iawn ar gyfer eich stori
  • sut i'w hadrodd yn eich ffordd unigryw eich hunain - yn eglur a hyderus

COFRESTRWCH NAWR!

ar gyfer diweddariadau a/neu ymgynghoriad.