DATBLYGU ARWEINYDDIAETH

Ar ôl gweithio fel uwch arweinydd yn BBC Cymru am nifer o flynyddoedd, rwy’n deall y gwytnwch a’r manyldeb sydd eu hangen fel arweinydd, a phwysigrwydd bod yn chi eich hun. Yn ddelfrydol, mae’r rhaglen ar gyfer Arweinwyr newydd, Arweinwyr benywaidd ac Arweinwyr sy'n delio gyda newid. Mae'n rhaglen y gellir ei haddasu ar gyfer eich anghenion penodol chi.

Y FFORDD O WEITHIO:

- cyfarfod i ddeall lle rydych am gyrraedd a chytuno ar raglen
- taith sydd wedi’i chynllunio’n arbennig i chi neu’ch tîm
- deallusrwydd emosiynol ac hyfforddi unigol

Gan ddefnyddio deallusrwydd emosiynol fel ffordd o ddarogan llwyddiant, gallaf greu strategaeth i wneud y gorau o’ch effaith drwy:

- hunan-ganfyddiad ac hunan-fynegiant
- perthnasau cymdeithasol pwerus
- mynd i’r afael â her
- gwybodaeth emosiynol fel adnodd

Ar ôl gweithio gyda'n gilydd, byddwch yn:

  • deall eich arddull fel arweinydd
  • creu effaith, gan weithio gyda’ch cryfderau
  • gwybod beth yw'r her a dod o hyd i atebion
  • sicrhau bod y dibenion a'r cyfrifoldebau yn eglur
  • deall cymhelliant a newid
  • datblygu a rhoi pŵer i dîm newydd lle bo'n berthnasol
  • datblygu hyder a gwytnwch
  • sicrhau canlyniadau

Gallaf hefyd ddarparu gweithdai grŵp neu raglenni ar gyfer datblygu arweinyddiaeth e.e. gall fod o fantais cymryd grŵp o arweinwyr newydd o adrannau gwahanol a chreu rhaglen fyddai’n helpu i fynd i’r afael â gweithio’n ynysig neu ddiwylliant adran sydd ddim yn gweithio’n dda.

COFRESTRWCH NAWR!

ar gyfer diweddariadau a/neu ymgynghoriad.