DATBLYGIAD TIM

Wrth arwain nifer o dimau yn BBC Cymru, fe ddysgais pa mor bwysig yw hi i sicrhau agwedd hyblyg - meddwl a rheoli'r foment, ond hefyd cadw llygad strategol ar y dyfodol a'i ofynion. Roedd deall a gwrando ar unigolion yn hanfodol, cael ffydd a dirprwyo blaenoriaethau, ac annog her, cymryd risg a chreadigrwydd. Mae ysgogi eich pobl a chael hwyl hefyd yn bwysig, yn enwedig pan fo pethau'n heriol dydd ar ôl dydd.

Mae'r rhaglen hon yn ffordd o ddatblygu timau a gellir ei theilwra ar gyfer eich sefydliad neu grŵp. Mae'n arbennig o werthfawr pan fydd unigolion yn dechrau fel tîm, lle bo arweinydd newydd neu lle mae disgwyl newidiadau o fewn y tîm.

Y FFORDD O WEITHIO:

- cyfarfod i ddeall a chytuno ar amcanion y grŵp a lle rydych am gyrraedd yn sgil y gweithdy neu raglen
- gweithdy undydd neu ddau ddiwrnod wedi’i gynllunio a’i gynnal gennyf i a gyda chymdeithion pryd mae’n addas e.e. adeiladu tîm, stori newid, gweithredu newidiadau
- rhaglen fyddai’n cynnwys cyfarfod cychwynnol, gweithdy adeiladu tîm, sesiynau hyfforddi mewn grŵp sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r dysgu a’r gweithredu, a gweithdy ar ddiwedd y rhaglen i sicrhau bod y tîm yn gwneud y gorau o’u cryfderau.

Bydd gweithdy/rhaglen ddatblygu unigryw yn:

  • datblygu ymwybyddiaeth o gryfderau a sialensau'r grŵp
  • edrych ar sut i sicrhau yr amgylchedd iawn ar gyfer ymddiriedaeth a chyd-berthnasau
  • sicrhau y byddwch y gallu herio yn y ffordd iawn
  • datblygu ffyrdd cydweithredol o weithio
  • sicrhau atebolrwydd
  • cynllunio ar gyfer rhoi newidiadau ar waith

COFRESTRWCH NAWR!

ar gyfer diweddariadau a/neu ymgynghoriad.