CWRDD A CATH

Helo ‘na. Cath Allen ydw i, a dwi’n angerddol ynglŷn â chefnogi arweinwyr sy’n wynebu sialensau corfforaethol, fel arwain timau drwy gyfnodau o newid sylweddol, tra’n parhau i ganolbwyntio ar y nôd; cynllunio a darparu strategaethau clir a strwythurau sy’n gweithio ar gyfer y cwsmer a’r staff; a chreu timau gwych sy’n deall pwysigrwydd ymddiriedaeth, gwrando a chefnogaeth, ac sy’n hyderus i gymryd risg creadigol. Gallaf eich helpu i fod yn arweinydd cryfach – sy’n hyderus i wneud newidiadau. Os rydych eisoes yn arweinydd neu’n arweinydd newydd, gallaf eich helpu i ddod o hyd i eglurder a datblygu atebion creadigol o ansawdd, drwy ddatblygu arweinyddiaeth grymus.

Fel aelod o Fwrdd Rheoli BBC Cymru, a 27 mlynedd o brofiad mewn nifer o swyddi tu fewn i’r BBC, gallaf eich helpu gyda sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a chyfathrebu.


FY STORI

Dechreuodd fy ngyrfa yng Nghaerdydd, ac yn fuan wedi hynny, es i San Steffan lle roeddwn yn rhan o dîm gwleidyddol BBC Cymru, pan ddarlledwyd o San Steffan am y tro cyntaf. Roeddwn yn gyfrifol am ffurfio, datblygu ac arwain timau yng Nghaerdydd a Llundain ar ôl y bleidlais ddatganoli, gan gynhyrchu rhaglenni teledu a radio gyda staff newydd ar adeg o graffu manwl iawn - tu fewn i’r BBC ac hefyd yn y byd gwleidyddol. Roedd yn gyfnod heriol iawn, ac arweiniodd hynny yn y pen draw at le ar fwrdd rheoli BBC Cymru. Erbyn hyn, hoffwn rannu fy mhrofiad a ngwybodaeth gyda chi. Os ydych yn arweinydd newydd sy’n creu tîm newydd lle mae angen i chi fod yn chi’ch hun a chael eich parchu tra’n sicrhau safonau uchel – yna gallaf eich helpu.
Ar adeg wahanol yn fy ngyrfa, roeddwn yn gyfrifol am BBC Radio Wales. Fe gyflwynais strategaeth a strwythur newydd i’r orsaf, gan arwain at y ffigurau cynulleidfa uchaf ers 10 mlynedd. Roeddwn hefyd yn gyfrifol am oruchwylio Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC, lle roedd angen sgiliau strategol, rhyngbersonol a gwytnwch yn ddyddiol. Rwy’n gwybod sut i gadw gwasanaeth o safon ar adeg o arbed arian - yn cadw ac yn adeiladu ar lwyddiant tra’n sicrhau amcanion ariannol.

Roedd angen gwrthrychedd, manyldeb, sgiliau rhyngbersonol a gwytnwch – gan gyfathrebu’n rheolaidd gyda gweithwyr, undebau a rhanddeiliad allanol. Os oes angen gwneud arbedion arnoch tra’n cadw cymhelliant a pharch eich staff, gallaf weithio gyda chi i gyrraedd eich nod.

Gan fy mod wedi cychwyn fy ngyrfa fel PA, a gorffen fel uwch arweinydd ac ymarferydd hyfforddi, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn datblygiad menywod fel arweinwyr. Rwyf wedi gweld a bod yn dyst i ymddygiad a strategaethau gwahanol iawn dros y blynyddoedd – rhai’n ysbrydoledig a rhai’n dorcalonnus. Os rydych yn ferch sy’n arwain mewn byd o ddynion, gallaf weithio gyda chi i fod eich hunan, ac i arwain fel chi eich hunan.

I grynhoi, mae fy mhrofiad wedi fy ngalluogi i deall beth sy’n gwneud arweinydd llwyddiannus – y math o awdurdod, cydbwysedd ac effaith sydd eu hangen – y math o arweinyddiaeth y gallwch ei hymgorffori i fod yn arweinydd unigryw. Gallaf eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r rhinweddau hynny. Rwyf wedi aros yn dryw i’m gwerthoedd a’r hyn rwy’n ei gredu – a gallwch chithau hefyd. A chael gyrfa anhygoel.



COFRESTRWCH NAWR!

ar gyfer diweddariadau a/neu ymgynghoriad.