GEIRDA

Sioned Hughes

Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru


Roedd Cath Allen wedi cael ei hargymell i mi fel hyfforddwr, mae hi’n wirioneddol eithriadol ac ysbrydoledig. Mae hi’n hyfforddwr mor naturiol, rwyf yn teimlo fy mod ar daith, nid mynd drwy broses. Mae hi'n wrandäwr ardderchog, mae’n cynnig her ac yn rhannu ei gwybodaeth, profiad a sgiliau personol mewn ffordd sy’n meithrin hunan-hyder a hunan-ymwybyddiaeth. Mae hi wedi fy ngwneud yn ymwybodol o’r hyn sy’n fy nghymell i a’m cryfderau allweddol. Byddwn yn ei hargymell yn gryf iawn.

Nigel Walker

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad Chwaraeon Lloegr


Mae Cath Allen yn unigolyn sy’n creu argraff, ac mae’n rhagori ar ddatblygu unigolion i wireddu eu breuddwydion ac i gyfrannu’n fwy effeithiol fel aelod o dîm.

Menna Richards

Cyfarwyddwr Anweithredol: Dŵr Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru


Mae gonestrwydd, ffordd broffesiynol ac egni Cath wedi bod yn hanfodol i’r cynlluniau newid creadigol ry’n ni wedi cydweithio arnyn nhw dros nifer o flynyddoedd. Mae ganddi gyfuniad unigryw o sgiliau: mae’n gadarn ac mae ganddi weledigaeth glir yn ogystal â’r gallu i fod yn oddefgar ac yn empathetig. Mae’n asesu sefyllfaoedd yn gyflym ac yn cynnig atebion creadigol ynghyd â chymorth i dimau ac unigolion. Mae’n un o’r rheolwyr pobl gorau dwi wedi gweithio gyda nhw.

Bea Ercolini

Golygydd Cylchgrawn, Elle, Gwlad Belg


Mae Cathryn yn gweld yn glir ac yn mynd â chi i le sydd angen i chi fynd mewn ffordd sy’n addas i chi. Mae ganddi sawl tric a gallwch ad-drefnu eich meddyliau a’ch cyfeiriad ar yr un pryd. Mae hi’n gwrando gydag empathi ac mynd â chi y tu hwnt i’r manteision ymarferol yn unig.

Andrew Howard

Pennaeth Cystadlaethau, Cymdeithas Bêl-droed Cymru


Fy mhrofiad cyntaf o hyfforddiant proffesiynol oedd gyda Cath Allen. Fe sicrhaodd ei rhinweddau fy mod yn cyflawni’r amcanion a bennwyd yn gyflym iawn. Mae hyn yn sicr wedi fy natblygu fel rheolwr, arweinydd a chydweithiwr, a gyda hynny, mae hyder yn tyfu o’ch amgylch chi.

Llinos Griffin Williams

Cynhyrchydd, Green Bay Media Ltd


Cefais y fraint o fod yn rhan o gwrs Cynhyrchu Creadigol y BBC o dan arweiniad Cath. Bu’n ddylanwad mawr arna i, yn bersonol ac yn broffesiynol. Cefais gyngor ymarferol ar ddatblygu gyrfa a chyfeiriad clir ynglyn â sut i wireddu fy uchelgais. Mae Cath nid yn unig yn cefnogi, ond mae hefyd yn ysbrydoli. Fe lwyddodd i wneud i fi gredu yn fy ngallu fy hun, gan fy ngwthio drwy’r amser i ddatblygu fy nghreadigrwydd heb gyfaddawdu ar safon; safon y gwaith a safon yr uchelgais!

COFRESTRWCH NAWR!

ar gyfer diweddariadau a/neu ymgynghoriad.