Ar ôl gweithio fel uwch arweinydd yn BBC Cymru am nifer o flynyddoedd, rwy’n deall y gwytnwch a’r manyldeb sydd eu hangen fel arweinydd, a phwysigrwydd bod yn chi eich hun. Yn ddelfrydol, mae’r rhaglen ar gyfer Arweinwyr newydd, Arweinwyr benywaidd ac Arweinwyr sy'n delio gyda newid. Mae'n rhaglen y gellir ei haddasu ar gyfer eich anghenion penodol chi.
Y FFORDD O WEITHIO:
- cyfarfod i ddeall lle rydych am gyrraedd a chytuno ar raglen
- taith sydd wedi’i chynllunio’n arbennig i chi neu’ch tîm
- deallusrwydd emosiynol ac hyfforddi unigol
Gan ddefnyddio deallusrwydd emosiynol fel ffordd o ddarogan llwyddiant, gallaf greu strategaeth i wneud y gorau o’ch effaith drwy:
- hunan-ganfyddiad ac hunan-fynegiant
- perthnasau cymdeithasol pwerus
- mynd i’r afael â her
- gwybodaeth emosiynol fel adnodd
Ar ôl gweithio gyda'n gilydd, byddwch yn:
- deall eich arddull fel arweinydd
- creu effaith, gan weithio gyda’ch cryfderau
- gwybod beth yw'r her a dod o hyd i atebion
- sicrhau bod y dibenion a'r cyfrifoldebau yn eglur
- deall cymhelliant a newid
- datblygu a rhoi pŵer i dîm newydd lle bo'n berthnasol
- datblygu hyder a gwytnwch
- sicrhau canlyniadau